Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Phillip Barlow (PB), Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Lee Clarke (LC), Cyngor Sir Caerdydd
  • Adam Crocker (AC), Cyngor Sir Penfro
  • Peter Davies (PD), Comisiwn y Senedd
  • Vicki Doyle (VD), Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Janine Edwards (JE), Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
  • Lloyd Fisher (LF), Cyngor Bro Morgannwg
  • Paul Jones (PJ), Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Richard Jones (RJ), Cyngor Sir Fynwy
  • Ceri Lewis (CL), Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
  • Morgan Lowden (ML), Cyngor Sir Ynys Môn
  • Geraint Morgan (GM), Cyngor Sir Powys
  • Hayley Randall (HRa), Data Cymru
  • Lesley Rees (LR), Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Abbie Sharp (AS), Cyngor Sir Penfro
  • Elaine Smith (ES), Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Zoe Strawbridge (ZS), Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Alwyn Williams (AW), Cyngor Sir Ynys Môn
  • Megan Williams (MW), Llywodraeth Cymru
  • Steffan Wiliam (SW), Cymen (cyfieithydd)
  • Lowri Wyn Morton (LWM), Cyngor Gwynedd

Siaradwyr

  • Becca Armstrong (BA), Llywodraeth Cymru
  • Dan Boon (DB), Llywodraeth Cymru
  • Steph Harries (SHa), Llywodraeth Cymru
  • Nigel Henretty (NH), SYG
  • Giles Horsfield (GH), SYG
  • Steve King (SK), Cyngor Abertawe
  • Sue Leake (SL), Llywodraeth Cymru (Cadeirydd)
  • Martin Parry (MP), Llywodraeth Cymru
  • Heledd Rees (HR), SYG
  • Sam Sullivan (SS), Data Cymru
  • Caitlin Theodorou (CT), Cyngor Sir Ceredigion
  • Nia Wyn Vaughan (NWV), Cyngor Gwynedd

Cofnodwyr

  • Ryan Jones (RJo), Llywodraeth Cymru
  • Gunan Singh (GS), Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

  • Gwyneth Ayers, Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Alis Francis, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
  • Steph Howarth, Llywodraeth Cymru
  • Bryn Jeffries, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Leanne John, Cyngor Abertawe
  • Kate Jones, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru
  • Jonathan Radcliffe, Chwaraeon Cymru
  • Helena Snuggs, Chwaraeon Cymru
  • Neil Townsend, SYG

Cyflwyniad

Darparwyd cyfieithu ar y pryd ar gyfer y cyfarfod hwn. 

Croesawodd SL bawb, gan esbonio ei bod yn cadeirio’r cyfarfod ar ran Steph Howarth am nad oedd yn gallu bod yn bresennol. 

Gwnaeth pawb a oedd yn bresennol am y tro cyntaf gyflwyno eu hunain: 

  • ZS (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Dadansoddydd Uwch yn yr Arsyllfa a’r Tîm Dadansoddi Canser.
  • AC ac AS (Cyngor Sir Penfro): Dadansoddwyr Systemau Gwybodaeth Daearyddol
  • RJ (Cyngor Sir Fynwy)

Nodiadau o’r cyfarfod diwethaf a ddiweddariad ar y pwyntiau gweithredu

Rhoddodd SL y diweddaraf ar nodiadau’r cyfarfod blaenorol ac ar y pwyntiau gweithredu a oedd heb eu cwblhau.

Cododd JE fater a oedd yn codi o hyd o ran talgrynnu data mewn ystadegau digartrefedd.Nododd SL y mater a bydd yn ei godi eto gyda’r tîm Ystadegau Tai.

Bydd asesiadau llesiant bellach yn eitem sefydlog ar agenda cyfarfodydd yn y dyfodol.
Holodd SK am y dyddiad cyhoeddi ar gyfer yr enwau AGEHI newydd. Nid yw’r dyddiad wedi’i gadarnhau eto, am fod trafodaethau â Chomisiynydd y Gymraeg yn mynd rhagddynt oherwydd problemau cyfieithu.

Holodd JE am yr adborth gan Gynulliad Ystadegau’r DU. Mae adroddiad yn cael ei baratoi gan Fwrdd Awdurdod Ystadegau’r DU, a disgwylir iddo lywio’r strategaeth nesaf Gwasanaeth Ystadegau’r Llywodraeth.

Nododd VD ei siom ynglŷn â chanlyniad yr ymarfer cwmpasu ar gronfa ddata Asesu Llesiant.

Pwynt gweithredu 1: Sicrhau bod asesiadau llesiant yn cael eu cynnwys ar agenda pob cyfarfod yn y dyfodol. (Ysgrifenyddiaeth)

Diweddariadau chwarterol Demograffeg ac ystadegau Cymru

Diweddariad chwarterol ystadegau Cymru

Nododd SL ddatblygiadau mewn nifer o feysydd (data economaidd a’r farchnad lafur, adroddiadau ar bresenoldeb yn yr ysgol, ystadegau trafnidiaeth, dadansoddiad tai, data perfformiad y GIG, ac ystadegau gofal iechyd trawsffiniol) ac ymatebodd aelodau.

Pwynt gweithredu 2: Y Cadeirydd i holi am yr Arolwg o’r Llafurlu ar ei newydd wedd a disgwyl diweddariad yn ystod gwanwyn 2025 ynglŷn â newidiadau yn y dyfodol.

Pwynt gweithredu 3: Ychwanegu Arolwg Cenedlaethol Cymru fel eitem ar yr agenda yn y dyfodol. 

Yr Economi a’r Farchnad Lafur

Parheir i gyhoeddi data o’r Arolwg o’r Llafurlu a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ond mae cafeatau ychwanegol wedi cael eu cynnwys o ran ansawdd data. 

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr Arolwg o’r Llafurlu ar ei newydd wedd, a disgwylir diweddariad yn ystod gwanwyn 2025. 

Anogwyd rhanddeiliaid sydd â diddordeb mewn ystadegau economaidd a’r farchnad lafur i ymgysylltu â’r Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd.

Addysg

Mae adroddiadau diweddar ar bresenoldeb yn yr ysgol bellach yn cynnwys cymariaethau o dueddiadau hirdymor, yn enwedig cyn ac ar ôl COVID-19, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i wella presenoldeb yn yr ysgol.

Tai 

Mae dadansoddiad newydd o ail gartrefi yng Ngwynedd wedi cael ei gyhoeddi. Mae’n defnyddio eiddo taladwy’r dreth gyngor fel llinell sylfaen ar gyfer cynlluniau peilot ar fforddiadwyedd. 

Mae’r canfyddiadau yn rhoi gwybodaeth am argaeledd tai, fforddiadwyedd, ac ystyriaethau polisi o ran ail gartrefi.

Iechyd

Mae archwiliad dwfn chwarterol o berfformiad y GIG wedi cael ei gyflwyno, sy’n rhoi gwybodaeth fanwl ar lefel byrddau iechyd lleol yng Nghymru. 

Mae dadansoddiad newydd o ofal iechyd trawsffiniol yn ystyried nifer y bobl sy’n byw yng Nghymru sy’n cael triniaeth yn Lloegr a nifer y bobl sy’n byw yn Lloegr sydd wedi’u cofrestru â meddygon teulu yng Nghymru.

Y Blynyddoedd Cynnar

Mae ystadegau diweddaraf Dechrau’n Deg bellach yn adlewyrchu data o’r rhaglen wedi ei hehangu, sy’n rhoi darlun ehangach o ddatblygiad yn ystod plentyndod cynnar yng Nghymru.

Gofal Cymdeithasol

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi dechrau gwaith ar amcanestyniadau newydd, ond nid oes amcanestyniadau cenedlaethol ar gael eto. 

Pwysleisiodd rhanddeiliaid fod angen i Gofal Cymdeithasol Cymru gydgysylltu â thimau ystadegau gwladol er mwyn sicrhau cysondeb.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gyfer diweddariad 2025 MALlC, a disgwylir adroddiad ar ddangosyddion arfaethedig ac adborth ymgynghori ym mis Mawrth i fis Ebrill 2025.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Gwnaed penderfyniad i atal gwaith maes dros dro ar gyfer 2025-26, nes bod yr arolwg wedi cael ei ailddylunio’n llawn. 

Codwyd pryderon ynglŷn â’r effaith bosibl ar asesiadau llesiant, sy’n dibynnu ar y data a gesglir. 

Gofynnodd SK am i Arolwg Cenedlaethol Cymru gael ei ychwanegu at agenda cyfarfod yn y dyfodol.

Trafnidiaeth a Diogelwch ar y Ffyrdd 

Cyhoeddwyd y data diweddaraf ar wrthdrawiadau traffig ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ym mis Hydref, a chyhoeddwyd diweddariad ar y data dros dro hyd at fis Medi 2024 yn ddiweddar. 

Nodwyd effaith y newid i’r terfyn cyflymder safonol fel pwnc o ddiddordeb. 

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i lansio Arolwg Teithio Cenedlaethol newydd ar ddechrau 2025.

Diweddariad Demograffeg

Dim diweddariadau mawr: cyhoeddwyd amcangyfrifon o aelwydydd ar gyfer canol 2023 ym mis Tachwedd. Awgrymodd MP eitem ar yr agenda ar amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd mewn cyfarfod yn y dyfodol; unwaith y byddant wedi’u cyhoeddi. 

Diweddariad Data Cymru

Mae’r Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol yn parhau i ehangu a disgwylir y bydd 18 i 19 o gynghorau yn cymryd rhan y flwyddyn nesaf. 

Bydd adnodd data newydd, Data City, yn ei gwneud yn bosibl i fireinio dosbarthiadau economaidd. 

Mae cyfleoedd hyfforddiant ar gael, sy’n cwmpasu pynciau fel cyflwyno data a mesur perfformiad. 

Cododd JE bryderon ynglŷn â pherthnasedd y Mynegai Cynnydd Cymdeithasol i Gymru, ac argymhellodd y dylid defnyddio adnoddau Data Cymru sy’n bodoli eisoes yn lle hynny. 

SYG Lleol

Rhoddodd HR o’r SYG gyflwyniad ar SYG Lleol (gweler y sleidiau manwl). 

Gwasanaeth cynghorol dadansoddol yw SYG Lleol, sy’n helpu llywodraeth leol a’r llywodraethau datganoledig i gael data a’u dehongli er mwyn gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Strwythur SYG Lleol

  • Mae arweinwyr rhanbarthol yn cwmpasu pob rhanbarth yn Lloegr.
  • Mae swyddogion cyswllt datganoli yn cefnogi’r llywodraethau datganoledig.
  • Mae’n pontio rhwng llywodraethau lleol ac adnoddau data’r SYG.

Mae SYG Lleol wedi’i strwythuro ar sail pum piler:

Dadansoddol

Darparu gwasanaeth dadansoddi data, cefnogi prosiectau dadansoddi lleol, a chasglu blaenoriaethau defnyddwyr i lywio cynlluniau’r SYG. 

Mynediad at Ddata 

Helpu defnyddwyr i symud drwy lwyfannau data, rhoi cyngor arbenigol, a chysylltu rhanddeiliaid â’r adnoddau cywir.

Rhwydweithio

Trefnu digwyddiadau, hwyluso cydweithredu, ac ymateb i heriau cyffredin o ran data mewn gwahanol ranbarthol.

Strategol

Cysoni blaenoriaethau llywodraeth leol a llywodraeth ganolog, gan sicrhau bod prosesau gwneud penderfyniadau yn adlewyrchu anghenion defnyddwyr. 

Meithrin Gallu 

Cynnal sesiynau hyfforddiant, gweithdai a gweminarau i wella llythrennedd data a sgiliau dadansoddi. 

Rhoddodd HR o’r SYG gyflwyniad ar dîm a gwasanaethau ‘SYG Lleol’, gan esbonio: 

  • y strwythur a’r ffordd y mae’n cydgysylltu: 
    y prif bileri gwaith (dadansoddi, cefnogi mynediad at ddata, rhwydweithio, strategaeth a meithrin gallu)
  • sut y gall SYG Lleol gefnogi rhanddeiliaid.

Rhoddodd HR rai astudiaethau achos manwl o’r math o waith gyda gwahanol sefydliadau neu grwpiau a wnaed ganddynt. A disgrifiodd weithdai a gweminarau meithrin gallu a gynhaliwyd gan SYG Lleol a sut i gysylltu â’r tîm. 
Roedd sleid ar y data cyhoeddedig a geisir gan ddefnyddwyr hefyd yn rhoi enghreifftiau o hyd a lled y mathau o ymholiadau yr ymdriniwyd â nhw.

Hyfforddiant ar ryngwynebau rhaglennu cymwysiadau a dangosfyrddau

Oherwydd y galw mawr, mae SYG Lleol wedi cynnal tair cyfres o weithdai ar gynaeafu rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau’r SYG a defnyddio dangosfyrddau gwybodaeth leol. 

Mae dros 1,000 o randdeiliaid wedi cymryd rhan yn y sesiynau hyfforddiant hyn. 

Bydd digwyddiadau rhyngweithiol arfaethedig yn rhoi cyfle i randdeiliaid ddylanwadu ar ddyfodol ystaddegau poblogaeth.

Sut i gymryd rhan

Gellir cofrestru ar gyfer gweminarau drwy ddolen Eventbrite SYG Lleol (sleidiau sy’n cynnwys y manylion i’w dosbarthu). 

Mae hen recordiadau ar gael i randdeiliaid a gollodd sesiynau cynharach. 

Bydd y sesiynau sydd i ddod yn canolbwyntio ar gyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth a defnyddio rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau i awtomeiddio data lleol. 

Cyfleoedd i Gysylltu ac Ymgysylltu

Sut i gyrraedd SYG Lleol

Rhannodd HR ei chyfeiriad e-bost a manylion cyswllt y tîm ar gyfer unrhyw ymholiadau yn y dyfodol. 

Roedd rhanddeiliaid yn cael eu hannog i archwilio teil SYG Lleol ar wefan y SYG i weld ceisiadau am ddata blaenorol gan ddefnyddwyr. 

Mae SYG Lleol yn cynnal ymarfer gwerthuso, a bydd cyfweliadau ar agor tan fis Mawrth er mwyn i randdeiliaid roi adborth ar ei gwasanaethau. Gwahoddwyd aelodau i gysylltu os oeddent yn barod i gael eu cyfweld.

Darparwyd e-bost cyswllt i’r rhai a oedd am rannu adborth ond nad oeddent yn gallu ymrwymo i gyfweliad. 

Sesiwn Holi ac Ateb

Gofynnodd ES a yw gwasanaethau SYG Lleol ar gael am ddim neu a godir tâl amdanynt.

Ymateb: Rhoddir yr holl gymorth am ddim, ond caiff ceisiadau eu blaenoriaethu yn seiliedig ar yr adnoddau sydd ar gael.

Mynegodd RJ ddiddordeb yn y Gweithgor ar Ystadegau Gwledig a’i berthnasedd posibl i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).

Ymateb: 

  • Mae croeso i randdeiliaid ymuno â’r cyfarfod cychwyn ym mis Mawrth i weld sut mae’r gweithgor yn datblygu.
  • Bydd y cyfarfod cyntaf yn gyffredinol, ac wedyn caiff gweithgor llai o faint ei ffurfio.

Cododd JE dri phwynt: 

  1. Cynrychiolaeth o Gymru ar y Gweithgor ar Ystadegau Gwledig – pwysleisiodd fod angen ymwneud ffurfiol o Gymru er mwyn sicrhau bod materion amddifadedd gwledig yng Nghymru yn cael eu cynrychioli’n gywir.
  2. Perthnasedd gwaith SYG Lleol i Gymru – nodwyd pryderon bod llawer o’r prosiectau yn canolbwyntio ar Loegr ac nad ydynt yn cyd-fynd ag anghenion data Cymru o bosibl. Galwyd am ymgysylltu cryfach â Llywodraeth Cymru.
  3. Pwysigrwydd y Cyfrifiad – pwysleisiwyd mai’r Cyfrifiad yw’r ffynhonnell fwyaf gwerthfawr o ddata lleol o hyd i Gymru oherwydd ei fanylder, ei amlddimensiynoldeb, a’r gallu i feincnodi.

Ymateb: Cadarnhaodd SYG Lleol fod prosiectau yn cael eu teilwra at anghenion lleol, gan annog rhanddeiliaid o Gymru i fynd ati i ymgysylltu’n rhagweithiol ac amlinellu eu gofynion data penodol.

Set ddata Canlyniadau Addysg Hydredol

Mae BA yn dechrau gwaith dadansoddi ar ddata Canlyniadau Addysg Hydredol a hoffai gael adborth ar yr hyn a fydd yn ddefnyddiol o bosibl i ddarpar ddefnyddwyr.

Caiff Canlyniadau Addysg Hydredol eu harwain gan yr Adran Addysg, mewn cydweithrediad â’r Adran Gwaith a Phensiynau, CThEF, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a’r SYG er mwyn cysylltu cofnodion addysg myfyrwyr â chanlyniadau ôl-addysg o ran incwm, budd-daliadau a chyflogaeth. Mae data addysg Llywodraeth Cymru hefyd wedi’u cysylltu â setiau data Canlyniadau Addysg Hydredol. Mae’r data hyn wedi cael eu defnyddio i ddadansoddi mesurau perfformiad ar gyfer addysg ôl-16, ac yn dangos cyrchfannau yn ôl sector, lefel astudio, cymhwyster, nodweddion dysgwyr a mwy.

Cynhwysir amrywiaeth o ffynonellau data addysg: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), Addysg Heblaw yn yr Ysgol, Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, casgliad ôl-16 a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae hyn yn cwmpasu CA4, CA5 ac addysg uwch.

Mae’r data addysg hyn yn cael eu cysylltu ag amrywiol ffynonellau data ynglŷn ag incwm, cyflogaeth a budd-daliadau, megis: Data TWE, hunanasesiadau, y Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau, data daearyddol, y Cynllun Cymhorthdal Incwm i Bobl Hunangyflogedig a’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws.

Mae i’r data Canlyniadau Addysg Hydredol gyfyngiadau. Dim ond myfyrwyr sydd wedi cael eu cysylltu â data eraill sy’n cael eu cwmpasu ac ni chaiff y garfan gyfan ei chwmpasu. Hefyd, nid yw’r data ar gyflogaeth ac incwm yn ystyried yr oriau a weithiwyd ac mae’r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau ond yn cynnwys sector yn hytrach na’r alwedigaeth benodol. Mae i’r data ar hunangyflogaeth gyfyngiadau hefyd, am nad ydynt yn cynnwys dyddiadau dechrau a gorffen.

Mae’r data wedi cael eu defnyddio mewn cyhoeddiadau, megis adroddiadau’r Adran Addysg ar fesurau llwyddiant yn seiliedig ar ganlyniadau i bobl ifanc 16-18 oed, CA4 ac addysg uwch, yn ogystal â gwaith gan y SYG ar symudedd daearyddol yn ystod ac ar ôl addysg uwch.

Y bwriad yn y dyfodol yw archwilio’r gronfa ddata ar gyfer Canlyniadau Addysg Hydredol ymhellach, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi enillion, y sector cyflogaeth a symudedd daearyddol. Hefyd, mae’r tîm yn ystyried sicrhau bod y data hyn ar gael i ymchwilwyr eraill.

Cysylltwch ag [email protected] i roi unrhyw adborth neu sylwadau ar waith dadansoddi Canlyniadau Addysg Hydredol.

Nododd NMV y byddai’r gwaith dadansoddi ar symudedd daearyddol yn werthfawr. Fel awdurdod lleol gwledig, mae’n gweld bod pobl yn aml yn symud allan i fynd i sefydliad addysg uwch, a byddai data ynghylch i ble maent yn symud yn ddefnyddiol.

Ychwanegodd MP a SL fod hyn yn wir fwy na thebyg am ardaloedd gwledig eraill, a bod y tîm ystadegau poblogaeth eisoes wedi bod yn meddwl am ymchwilio i hyn, gan gynnwys mewn perthynas â’r gallu i siarad Cymraeg.

Diweddariad y SYG ar Ddatblygiadau ym maes Ystadegau Poblogaeth

Rhoddodd NH y diweddaraf ar y gwaith y mae’r SYG yn ei wneud o ran polisi diwygiadau ar gyfer yr Amcangyfrifon Poblogaeth seiliedig ar Ddata Gweinyddol newydd.

Caiff papur ei gyhoeddi ar 26 Chwefror a fydd yn rhoi gwybodaeth am amlder diwygiadau i amcangyfrifon poblogaeth. Y nod yw sicrhau cydbwysedd rhwng amlder y diwygiadau i gadw cywirdeb yn y dull seiliedig ar fodel heb darfu ar y gwaith sy’n dibynnu ar gyfres amser llawn o amcangyfrifon poblogaeth. Mae amlder y diwygiadau yn arbennig o bwysig i ardaloedd lle ceir lefelau uwch o fudo. Mae’r SYG yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr.

Caiff yr amcangyfrifon poblogaeth i Gymru a Lloegr ar gyfer canol 2024 ar lefel awdurdodau lleol eu cyhoeddi erbyn haf 2025. Cânt eu cyhoeddi ar y cyd â diwygiadau i amcangyfrifon canol 2023 a chanol 2022 i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r amcangyfrifon mudo rhyngwladol newydd a gyhoeddir ym mis Mai neu tua’r adeg honno.

Esboniodd NH hefyd fod argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol ystadegau poblogaeth a mudo wrthi’n cael ei lunio’n derfynol, ond caiff papur ei gyhoeddi yn y misoedd sydd i ddod. Mae hwn yn debygol o ganolbwyntio ar y broses o bontio o amcangyfrifon seiliedig ar arolygon i’r amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol ac ni fydd yn nodi, ar hyn o bryd, a fydd cyfrifiad yn cael ei gynnal yn y dyfodol.

Esboniodd GH mai’r nod yw mai amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol fyddai’r prif amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer haf 2025, a bod cyfres o feini prawf wedi cael ei chyhoeddi ar 31 Ionawr i fesur llwyddiant ac addasrwydd yr amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol. Mae’r meini prawf hyn wedi cael eu llunio i sicrhau bod yr amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol o’r un ansawdd â’r amcangyfrifon canol blwyddyn dull traddodiadol presennol neu’n well na hynny.

Bydd rhagor o ymgyngoriadau ag academyddion, cynrychiolwyr awdurdodau lleol, a chynrychiolwyr eraill o’r llywodraethau datganoledig ac adrannau eraill o’r llywodraeth.

Mae’n rhaid bod yr amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol yn gallu diwallu anghenion defnyddwyr, yn gywir ac yn ddibynadwy, ac yn cael eu paratoi gyda hyder y bydd data digonol ar gael a hyder ynglŷn ag ansawdd data ar gyfer datganiadau yn y dyfodol. Mae llawer o waith yn cael ei wneud yn y SYG i sicrhau bod y ffynonellau sy’n cael eu defnyddio yn yr amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol yn cael eu monitro a’u gwerthuso. Casglwyd tystiolaeth ynglŷn ag anghenion defnyddwyr drwy ymgyngoriadau ac mae’n cynnwys amseroldeb a hygyrchedd cyhoeddiadau.

Bydd y dulliau o baratoi amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol, ochr yn ochr ag unrhyw wybodaeth ategol o ansawdd ar gyfer cyhoeddiadau neu gynllunio diwygio, yn gynhwysfawr ac yn dryloyw er mwyn rhoi eglurder i ddefnyddwyr. Bydd systemau ar waith i sicrhau bod y broses o baratoi amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol a’u gwybodaeth ategol yn ddibynadwy ac yn atgynyrchadwy. Bwriedir hefyd i wella amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol yn y dyfodol drwy gyhoeddi amcangyfrifon arbennig megis amcangyfrifon poblogaeth yn ystod y dydd neu’n dymhorol hefyd.

Nod y SYG yw y daw’r amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol yn amcangyfrifon poblogaeth swyddogol Cymru a Lloegr ac y byddant yn cyrraedd y safon sydd ei hangen i fod yn ystadegau swyddogol achrededig erbyn haf 2025.

Gofynnodd SS pa newidiadau yn y gyfres amser y dylem eu disgwyl wrth bontio i amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol ac a fydd y SYG yn defnyddio unrhyw dechnegau llyfnhau. Atebodd NH y bydd yr amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021, felly ni fydd unrhyw newidiadau mawr wrth bontio o amcangyfrifon canol blwyddyn i amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol.

Soniodd SS y byddai hyn yn golygu y byddai’n rhaid i’w hamcangyfrifon poblogaeth presennol gael eu diwygio o Gyfrifiad 2021 ymlaen, ac y byddai rhywfaint o wybodaeth gan y SYG am wneud hyn yn ddefnyddiol. Cytunodd GH ei bod yn bwysig cyfathrebu ynglŷn â diwygio allbynnau cyfredol a phontio i amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol.

Gofynnodd JE beth fydd yn digwydd gydag amcangyfrifon poblogaeth ardal fach. Atebodd NH y bydd amcangyfrifon ardaloedd bach ar gyfer amcangyfrifon canol 2024, canol 2023 a chanol 2022 diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2025. Y nod yw cysoni â’r amcangyfrifon mudo wedi’u diwygio a fydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai. Gofynnodd SL a yw’r dyddiad ym mis Medi 2024 yn derfynol. Atebodd NH mai dyddiad dros dro ydyw.

Nododd SK a SL y byddai’r dull gweithredu hwn yn effeithio ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2025 felly roedd eglurder ynglŷn ag amseriad amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach yn bwysig. Ychwanegodd JE y byddai diffyg mynediad at amcangyfrifon ardaloedd bach ar gyfer oedran a rhyw ar gyfer canol 2023 yn effeithio ar waith yn cymharu gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon traddodiadol ac amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol. Byddai’n well cael y ddau fath o amcangyfrifon er mwyn gwneud cymariaethau a lleihau’r effaith ar waith sydd eisoes wedi’i wneud.

Roedd NH am ddeall pa lefelau daearyddol yr hoffai pobl gael amcangyfrifon poblogaeth ar eu cyfer fwyaf. Nododd JE y byddai lefel ward etholiadol yn ddefnyddiol, ochr yn ochr â daearyddiaethau awdurdod lleol. Cytunodd VE a LR hefyd; Ychwanegodd LR y byddai aelodau etholedig am gael gwybodaeth ar lefel ward etholiadol.

Diweddariad ar Amcanestyniadau Poblogaeth Cenedlaethol

Rhoddodd DB, SHa a MP ddiweddariad ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol i Gymru, a gyhoeddwyd yn unol â’r Amcanestyniadau Poblogaeth Cenedlaethol i’r DU a gyhoeddwyd gan y SYG ar 28 Ionawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi datganiad yn benodol i Gymru. Nodwyd bod ansicrwydd yn gysylltiedig â’r amcanestyniadau ac nad rhagolygon ydynt.

Amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 5.9% i 3.32 miliwn erbyn canol 2032, sy’n is na Lloegr ond yn uwch na’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Dangosir amcanestyniadau o’r elfennau allweddol o newid yn y boblogaeth (genedigaethau, marwolaethau a mudo net) yn y sleidiau. Amcanestynnir y bydd nifer y marwolaethau yn cynyddu ac y byddant yn uwch na genedigaethau ac amcanestynnir y bydd Mudo Rhyngwladol Net yn gostwng 58%, yn ôl i lefel a welwyd rhwng canol 2011 i ganol 2021.

Bwriedir paratoi amcanestyniadau is-genedlaethol erbyn diwedd yr haf neu ddechrau’r hydref. Bydd y cylchlythyr demograffig nesaf hefyd yn cynnwys holiadur byr er mwyn i ddefnyddwyr roi adborth ar gyfer amcanestyniadau yn y dyfodol.

Nododd JE y bydd y gyfres nesaf o amcanestyniadau, yn seiliedig ar waith gan y SYG ar amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol, yn bwydo i mewn i asesiadau llesiant; mae’n bosibl y bydd anghysondeb mawr yn yr amcanestyniadau hyn ac amcangyfrifon canol blwyddyn. Byddai’n ddefnyddiol gwybod sut y byddai defnyddwyr yn cael eu hysbysu am unrhyw wahaniaethau.

Atebodd NH y bydd angen mynd drwy lawer o ddibyniaethau data cyn paratoi amcanestyniadau is-genedlaethol. Mae angen i amcanestyniadau is-genedlaethol ac amcanestyniadau o aelwydydd fod yn waith dilynol i’r amcangyfrifon canol blwyddyn a grybwyllir uchod, yr effeithir arnynt gan y data sydd ar gael ar adeg eu dechrau.

Ychwanegodd JE fod ganddi bryder ynghylch defnyddwyr sy’n edrych fwy i’r tymor canolig, megis ar gyfer cynllunio darpariaeth gwelyau ysbyty, cartrefi gofal neu ysgolion. Gan fod dulliau o gynllunio gwaith yn tueddu i fod o’r gwaelod i fyny yng Nghymru, mae JE yn fwy pryderus ynghylch sut y gallai newidiadau methodolegol i amcangyfrifon canol blwyddyn effeithio ar ddefnyddwyr a chanfyddiad pobl o’r boblogaeth. Byddai’n ddefnyddiol gwybod sut y bydd cyfyngiadau a thybiaethau yn cael eu cyfleu.

Cytunodd NH fod amcanestyniadau poblogaeth yn seiliedig ar dybiaethau, ac y byddai’n ddefnyddiol rhoi gwybod am effeithiau’r rhain.

Gofynnodd NWV pa mor hawdd fyddai’r dasg o edrych ar ardaloedd bach yn ei hawdurdod lleol a sut mae’r newidiadau newydd i amcanestyniadau yn effeithio ar hyn.

Atebodd MP fod y broses o gyfrifo amcanestyniadau ar lefel awdurdod lleol wedi cael ei newid i fod yn fwy atgynyrchadwy. Ar hyn o bryd, byddai angen i’r cod gael ei ddiwygio er mwyn gallu creu amcanestyniadau lefel leol, pwrpasol, ond byddent yn fwy na pharod i rannu’r cod cyfredol â defnyddwyr. Mae MP a’r tîm yn awyddus i gael adborth a thrafodaethau â defnyddwyr er mwyn sicrhau bod yr amcanestyniadau newydd yn diwallu anghenion defnyddwyr.

Rhannodd JE bryder penodol ynghylch cael data mewnbwn dibynadwy er mwyn paratoi amcanestyniadau poblogaeth ar lefel is-awdurdod lleol.

Dylid anfon unrhyw adborth pellach neu gwestiynau ar yr amcanestyniadau poblogaeth is-genedlaethol i’r blwch negeseuon e-bost: [email protected]

Adborth gan awdurdodau lleol a gymerodd ran

Esboniodd CT, NWV a SK eu profiadau o ddefnyddio’r amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer eu hawdurdodau lleol eu hunain. Mae’r awdurdodau lleol hyn wedi bod yn rhan o’r cynllun peilot sy’n ystyried y Model Poblogaeth Dynamig ac amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol.

Mae’r awdurdodau lleol wedi cymryd rhan yn y broses drwy fod yn rhan o drafodaethau, gweithdai ac ystyried canlyniadau rhagarweiniol yr amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol. Ar y cyfan, bu’n brofiad cadarnhaol ac yn gyfle i’r awdurdodau lleol deimlo dipyn yn agosach i’r broses, a oedd yn cynnwys cael cyfle i godi unrhyw bryderon. Bu’r SYG yn gefnogol drwy gydol y broses, gan helpu i ateb cwestiynau neu ymdrin â materion.

Nododd CT fod y posibilrwydd o leihau’r oediad amser i chwe mis o ran cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth yn cael ei ystyried yn welliant gwerthfawr i awdurdodau lleol er mwyn iddynt gofnodi newidiadau i dueddiadau yn y boblogaeth.

Nododd NWV fod y broses o baratoi amcangyfrifon yn hynod gymhleth, a bod y SYG wedi bod o gymorth o ran esbonio’r fethodoleg.

Nododd yr awdurdodau lleol a gymerodd ran rai heriau a phryderon a oedd yn codi o’r broses hefyd.

Un mater y nodwyd ei fod wedi codi’n gyson oedd y gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol a’r amcangyfrifon traddodiadol sy’n seiliedig ar y Cyfrifiad. Nododd NWV a SK ei bod yn anodd gwybod beth sy’n gywir neu beth yw’r ‘gwirionedd’, yn enwedig am nad oes digon o ffynonellau annibynnol i gymharu’r amcangyfrifon â nhw.

Y gwahaniaethau mwyaf a welwyd oedd yn y grŵp oedran 20 i 24 oed. Nid ymddengys fod unrhyw esboniad am hynny.

Nododd CT fod cwestiynau wedi codi ynghylch y gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon canol blwyddyn a’r amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol, gan fod yr olaf yn is na’r amcangyfrifon canol blwyddyn ar y cyfan. Nodwyd y gallai hyn gael effaith ar ddyraniadau cyllid.

Nododd NWV hefyd yr her o baratoi amcangyfrifon seiliedig ar ddata gweinyddol o’r boblogaeth yn ôl y gallu i siarad Cymraeg oherwydd prinder data gweinyddol.

Dywedodd NH fod yr adborth yn ddefnyddiol a chytunodd â’r sylwadau. Byddai disgwyl i’r amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol atal y symudiad rhwng cyfrifiadau a welid mewn amcangyfrifon canol blwyddyn traddodiadol, a fyddai’n arwain at wahaniaethau i amcangyfrifon sy’n seiliedig ar y Cyfrifiad. Fodd bynnag, er mwyn penderfynu a yw’r gwahaniaethau yn gywir bydd angen ystyried yr ansicrwydd mewn mesurau ac ansawdd dangosyddion.

Nododd NH hefyd mai ardaloedd sydd â’r lefel uchaf o symudedd, megis poblogaethau o fyfyrwyr, yw’r rhai mwyaf anodd i’w hamcangyfrif.

Gofynnodd SS pryd y bydd enwaduron poblogaeth a ddefnyddir yn allbynnau eraill y SYG yn cael eu symud i fod yn amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol.

Atebodd NH, unwaith y daw amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol yn amcangyfrifon swyddogol, y byddant, yn ddelfrydol, yn cael eu symud draw cyn dyddiad cyhoeddi pob allbwn. Fodd bynnag, mae rhai ystadegau economaidd yn cymryd mwy o amser i gynnwys enwaduron a phwysau. Gall hyn olygu y gallai rhai allbynnau ac amcanestyniadau gymryd mwy o amser i symud yn llawn i fod yn amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol.

Unrhyw fater arall

Nododd SL gais am i Arolwg Cenedlaethol Cymru fod ar agenda’r cyfarfod nesaf. Hefyd, dylai gwybodaeth am yr enwau AGEHI newydd gael ei chyhoeddi cyn hir. 

Bydd y pwynt gweithredu blaenorol ynglŷn â thalgrynnu data digartrefedd yn cael ei godi gyda’r tîm ystadegau tai.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau, 5 Mehefin 2025. E-bostiwch [email protected] i ofyn am unrhyw eitemau pellach ar gyfer agenda’r cyfarfod nesaf. 

Pwyntiau gweithredu

[1] Sicrhau bod asesiadau llesiant yn cael eu cynnwys ar agenda pob cyfarfod yn y dyfodol (Ysgrifenyddiaeth)

[2] Holi am yr Arolwg o’r Llafurlu ar ei newydd wedd a disgwyl diweddariad yn ystod gwanwyn 2025 ynglŷn â newidiadau yn y dyfodol (Cadeirydd)

[3] Ychwanegu Arolwg Cenedlaethol Cymru fel eitem ar yr agenda yn y dyfodol (Ysgrifenyddiaeth)

OSZAR »