Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n bleser gan Cafcass Cymru gyhoeddi ei gyfres Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gan Cafcass Cymru gyhoeddi ei gyfres Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig, a fydd yn helpu ymarferwyr i ddeall ac asesu'n gywir effaith barhaol cam-drin domestig ar les a diogelwch plant ac oedolion. 

Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth a theori yn seiliedig ar gam-drin domestig, er mwyn meithrin dealltwriaeth ymarferwyr a rhoi arweiniad ar sut y dylid ymdrin â cham-drin domestig pan fyddwn yn rhyngweithio â theuluoedd. Mae’r dogfennau yn yr atodiadau yn cynnig cyfleoedd i ymarferwyr fyfyrio ar eu hymarfer mewn perthynas â cham-drin domestig a’i ddatblygu.

Nod y canllawiau hyn yw helpu ymarferwyr Cafcass Cymru i gael eu arwain gan anghenion yn eu gwaith gyda theuluoedd a phlant.  Maent yn cynnwys gwybodaeth, argymhellion ar gyfer gwaith darllen pellach, awgrymiadau ar gyfer arferion gorau a chwestiynau myfyriol i’w cefnogi pan y byddent yn gweithio gyda phlant a’u teuluoedd. Anogir ymarferwyr i ddefnyddio dull gweithredu ymchwiliol, gwrthrychol ac empathetig wrth ymdrin â phob asesiad a gyda phob teulu, gan ganolbwyntio ar ymddygiadau a’u heffaith mewn perthynas â llesiant plant, risg o niwed a diogelwch.

Cyfres of ddogfennau sy’n cefnogi ein dull lle mae cam-drin domestig wedi ei nodi yw Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Cafcass Cymru.  Ategir y dull yma gan ymarfer sy'n seiliedig ar drawma a chefnogir gan ddull Sefydliad Safe and Together.

  1. Canllawiau Ymarfer Ar Gyfer Cam-drin Domestig Cafcass Cymru
  2. Briff 7 Munud
  3. Diffiniadau
  4. Rhywedd a Chamdriniaeth
  5. Croestoriadedd a Gwrth-hiliaeth
  6. Modelau Cam-drin Domestig
  7. Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma
  8. Cam-drin Domestig a ‘Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant’
  9. Ymgysylltu ag Oedolion sy’n Ddioddefwyr-Oroeswyr Cam-drin Domestig
  10. Ymgysylltu ag Unigolion sy’n Cam-drin
  11. Croes neu Wrth-ddatganiadau Cam-drin
  12. Diogelu, Asesu Risg a Gweithdrefnau
  13. Cwestiynau Fframio
  14. Dadansoddi Datganiadau Cyffredin yn Feirniadol Par: Cam-drin Domestig
  15. Darllen, Adnoddau a Chymorth Pellach
OSZAR »